Ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i’r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru. 

 

Pwrpas

 

1.   Darperir y papur hwn mewn ymateb i wahoddiad oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i gyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor i’r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru, a chyfranogiad Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru 2014-2020, sydd dan fy nghadeiryddiaeth i, hyd yma. 

 

Cefndir

 

2.   Mae Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru 2014-2020 (PMC) yn monitro’r ddarpariaeth effeithiol o raglenni ar Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a Chronfa Amaethyddol Cymru ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), ac yn ystyried y ffordd orau y gall y cronfeydd weithio gyda’i gilydd i gyflawni’r effaith fwyaf yng Nghymru.  Sefydlwyd un Pwyllgor Monitro Rhaglenni yng Nghymru i gwmpasu’r tair Cronfa Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd a reolir gan Lywodraeth Cymru (ERDF, ESF, EAFRD) ac i ddarparu cyfeiriad strategol a throsolwg o’r buddsoddiadau a wneir ledled Cymru.

 

3.   Mae’r Pwyllgor yn cynnwys panel o chwe aelod arbenigol a benodwyd drwy’r broses penodiadau cyhoeddus a 22 aelod a enwebwyd ar sail gynrychioliadol (sy’n bodloni gofynion rheoliadol) o gyrff partneriaid a chyrff statudol gan gynnwys llywodraeth leol, addysg uwch ac addysg bellach, y cyhoedd, y sectorau preifat a gwirfoddol, undebau llafur, partneriaid cymdeithasol a’r rhai â’r cyfrifoldebau statudol dros themâu trawsbynciol yr amgylchedd a chydraddoldeb. Atodir rhestr o’r aelodau yn Atodiad A.  Mae hyn yn helpu i sicrhau bod cydbwysedd o aelodau sydd, gyda’i gilydd, yn meddu ar ystod o alluoedd a chymwysterau sy’n berthnasol i weithrediadau’r PMC.  Mae cynrychiolaeth draws-sectoraidd ar y PMC hefyd yn sicrhau bod modd cyfleu negeseuon am gyflawni’r rhaglenni ar draws yr holl sectorau. 

 

Gwahoddir y Comisiwn Ewropeaidd (DG REGIO, DG EMBL a DG AGRI) i gymryd rhan yn y Pwyllgor fel cynghorwyr. Mae uwch swyddogion WEFO ac Is-adran Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru yn mynychu cyfarfodydd y PMC i ddiweddaru’r aelodau am baratoi, cyflawni, monitro a gwerthuso’r rhaglenni.  

 

4.   Mae’r holl bapurau a gyflwynir yng nghyfarfodydd y PMC ar gael ar dudalennau cyllido’r UE Llywodraeth Cymru https://gov.wales/funding/eu-funds/2014-2020/programme-monitoring-committee/?lang=cy

 

 

Rôl y PMC yn y dyfodol o ran disodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru

 

5.   Yn unol â gofynion rheoliadol, mae Cylch Gorchwyl y PMC yn nodi y dylai’r PMC fodloni’i hun bod y rhaglenni yn cael eu gweithredu a’u bod yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion a gytunwyd gyda’r UE. Felly, mae’r aelodau, yn briodol ddigon, yn canolbwyntio ar lywio rhaglenni 2014-2020 i ddod i fwcl yn llwyddiannus.

 

6.   Nid yw’r Cylch Gorchwyl yn caniatáu i’r PMC weithredu fel fforwm i gychwyn trafodaeth wleidyddol ynghylch disodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru. Fodd bynnag, rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r PMC am y cynnydd o ran polisi rhanbarthol yn y dyfodol.

 

7.   Yn sgil hynny, cyfyngwyd papurau’r PMC am ddyfodol y Polisi Rhanbarthol i ddiweddariadau ar y drafodaeth sy’n datblygu. Rhoddwyd diweddariadau o’r fath i’r PMC ym mhob cyfarfod ers mis Mehefin 2017. Mae’r rhain wedi cwmpasu:

 

·    Statws presennol y papurau polisi sy’n ymwneud â Brexit a safiad Llywodraeth Cymru am flaenoriaethau negodi allweddol;

 

·    Cynnydd o ran y datblygiadau allweddol a’r rhaglen waith ynghylch datblygu dull gweithredu ar gyfer y dyfodol;

 

·    Yn ogystal, anogwyd yr aelodau i ymateb i’r ymarfer ymgysylltu ar bapur Dyfodol Polisi Rhanbarthol ar ôl Brexit Llywodraeth Cymru, ac i fynychu’r digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid ffurfiol i helpu i lywio’r drafodaeth.

 

8.   Mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gyfarfod y PMC ym mis Chwefror 2017 i amlinellu’r meysydd allweddol ar gyfer negodi fel y nodwyd ym mhapur polisi Diogelu Dyfodol Cymru 

https://beta.gov.wales/sites/default/files/2017-01/30683%20Securing%20Wales%C2%B9%20Future_ENGLISH_WEB.pdf

 

Trafodaethau perthnasol eraill y PMC

                                                                                          

9.   Prif ffocws gwaith y PMC o hyd yw sicrhau bod rhaglenni 2014-2020 yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus mewn hinsawdd economaidd-gymdeithasol heriol a chyfnewidiol. Fodd bynnag, mae cysylltiadau pwysig rhwng y rhaglenni cyfredol ac unrhyw drefniadau olynol. 

 

10. Er bod Trysorlys y DU wedi darparu gwarant i danysgrifennu’r buddsoddiadau a ariannwyd gan yr UE y cytunwyd arnynt cyn i’r DU adael yr UE ym mis Mawrth 2019, mae Aelodau’r PMC yn parhau’n bryderus am effaith bosibl yr oedi cyn dod i gytundeb ar drefniadau ariannu Polisi Rhanbarthol ar y gallu i gynnal ei gapasiti gweithredol presennol. Heb eglurder a sicrwydd ynghylch y trefniadau cyllido ar gyfer y dyfodol, mae perygl i’r arbenigedd sylweddol, a ddatblygwyd dros gyfnodau rhaglenni olynol, mewn llawer o’r sefydliadau sy’n gyfrifol am gyflawni’r rhaglenni buddsoddi pwysig hyn, gael eu herydu neu’u colli, a chael effaith negyddol ar yr unigolion, y busnesau a’r cymunedau sydd ar hyn o bryd yn cael cymorth ganddynt.

11. Er enghraifft, dylid ystyried y gwersi a ddysgwyd ac arfer gorau drwy’r rhaglenni presennol a’u defnyddio i ddylanwadu ar ffurf a chynllun rhaglenni’r dyfodol. O ganlyniad, bydd llawer o’r gwaith y mae’r PMC eisoes yn ei gyflawni yn cael effaith sylweddol ar unrhyw ddull gweithredu ar gyfer y dyfodol.

 

12. Rhoddir diweddariad i’r PMC am y datblygiadau mewn perthynas ag amrywiol astudiaethau ymchwil a gwerthuso WEFO bob chwe mis, sy’n rhoi cyfle
i’r PMC gyfrannu at gynlluniau gwerthuso’r rhaglenni. Bydd y gwerthusiadau a’r trafodaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar ffurf rhaglenni yn y dyfodol wrth i’r gwersi gael eu dysgu ac wrth i effaith ac effeithlonrwydd y gwahanol ymyriadau gael eu mesur.

 

13. Cyflwynir tri Adroddiad Blynyddol ar Themâu Trawsbynciol i’r PMC hefyd ac mae pob un ohonynt yn manylu ar y cynnydd a wneir ar integreiddio Cyfle Cyfartal a Phrif Ffrydio Rhywedd, Datblygu Cynaliadwy, Trechu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol ym mhob rhaglen a phrosiect. Mae’r adroddiadau’n amlygu’r cynnydd a wneir ar ddangosyddion y Themâu Trawsbynciol ffurfiol a gytunwyd gyda’r Comisiwn Ewropeaidd, ochr yn ochr â thystiolaeth am sut mae’r prosiectau’n cyflawni amcanion y Themâu a nodir yn y Rhaglen Weithredol. Ym mis Mehefin 2015, cytunodd y PMC ar gyfres o ddangosyddion Themâu Trawsbynciol ychwanegol ar Lefel Achos (Prosiect)  fel dull o ddangos yr arfer da a gyflawnir drwy brosiectau a ariennir gan yr UE. Cyflwynir tystiolaeth o’r cynnydd parthed y dangosyddion hyn i’r PMC dair gwaith y flwyddyn.

 

14. Yn ogystal â hyn, mae’r PMC wedi rhoi cryn bwyslais ar sicrhau y bydd y buddsoddiadau ar gyfer 2014-2020 yn gynaliadwy, a gofynnwyd i Lywodraeth Cymru sicrhau bod effeithiau ehangach a hirdymor y buddsoddiadau’n cael eu mesur ac yr adroddir arnynt. 

 

Y Camau Nesaf

 

15. Er bod cryn ansicrwydd ynghylch yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru o wybod nad yw Llywodraeth y DU wedi cadarnhau’r manylion eto, bydd y PMC yn dal i ystyried ei rôl o ran cyfrannu at y drafodaeth am ddyfodol Polisi Rhanbarthol o fewn cylch gwaith ei swyddogaethau a’i gyfrifoldebau mewn perthynas â rhaglenni 2014-2020. 

 

16. Mae egwyddorion sicrhau cynaliadwyedd buddsoddiadau a dysgu gwersi o weithredu rhaglen wrth galon gwaith y PMC, ac maent yn bynciau trafod cyson ar draws holl gwmpas ein rhaglen waith hyd yma. Byddant yn parhau i fod yn allweddol er mwyn cyflawni rhaglenni 2014-2020 yn llwyddiannus, ac rydym hefyd yn gobeithio y byddant yn helpu i greu sail ar gyfer unrhyw ddull gweithredu yn y dyfodol. 

 

 

Julie Morgan, AC

Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru 2014-2020 

Mai 2018

Atodiad A

 

AELODAETH PWYLLGOR MONITRO RHAGLENNI CYMRU 2014–2020

 

Cadeirydd:

        Julie Morgan,  Aelod Cynulliad

 

Enwebwyd 22 aelod, ar sail gynrychiadol o gyrff partneriaid a statudol:

 

Y Cynghorydd Rob Stewart

Llywodraeth Leol 

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

Peter Crews

Busnes a Menter

Julie Cook

Tom Whyatt

Paul Byard

Rudi Plaut

Derek Walker

Y trydydd sector

Phil Fiander

Iestyn Davies

Addysg

Dr David Blaney

Professor David Shepherd

Arfon Williams

Amgylchedd

Rhian Jardine

Charlotte Priddy/Rachel Lewis-Davies

Ffermio a Busnesau Gwledig 

Duncan Hamer

Llywodraeth Cymru

Rachel Garside-Jones

Lowri Owain

Grwpiau Gweithredu LEADER

 

Y 6 aelod a ddewisiwyd drwy’r broses penodiadau Cyhoeddus:

 

·                     David Davies

·                     Yr Athro Richard Davies

·                     Dr Grahame Guilford

·                     Joy Kent

·                     Sian Price

·                     Beth Winkley